OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2019 Rhif (Cy. )
AER GLÂN, CYMRU
Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Cymru) (Diwygio) 2019
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/50 (Cy. 15)) (“Rheoliadau 2019”).
Mae’r Rheoliadau hyn yn cywiro gwall teipograffyddol yn nhestun Cymraeg Rheoliadau 2019.
Mae Rheoliadau 2019 yn pennu pob tanwydd sydd wedi ei awdurdodi ar hyn o bryd i’w ddefnyddio mewn ardaloedd rheoli mwg yng Nghymru at ddibenion adran 20 o Ddeddf Aer Glân 1993 (p. 11).
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2019 Rhif (Cy. )
AER GLÂN, CYMRU
Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Cymru) (Diwygio) 2019
Gwnaed 9 Mai 2019
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 14 Mai 2019
Yn dod i rym 5 Mehefin 2019
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pŵer a roddir gan adran 20(6) o Ddeddf Aer Glân 1993([1]), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Enwi a chychwyn
1.—(1)(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau
Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Cymru) (Diwygio)
2019.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 5 Mehefin 2019 .
DiwygioRheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Cymru) 2019
2. Yn nhestun Cymraeg Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Cymru) 2019([2]), yn yr Atodlen, ym mharagraff 71(c), yn lle “150” rhodder “130”.
Lesley Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
9 Mai 2019
([1]) 1993 p. 11. Trosglwyddwyd swyddogaeth berthnasol yr Ysgrifennydd Gwladol, i’r graddau yr oedd yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo. Mae’r swyddogaeth honno’n arferadwy bellach gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.